Ysgol Gynradd Pontiets – Datganiad y Grant Datblygu Disgyblion 2025/2026
Mae’r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) yn cael ei ddyrannu i ysgolion sydd â disgyblion o deuluoedd incwm isel ac sy’n gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim (e-FSM), yn ogystal â disgyblion sydd wedi bod mewn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC). Disgwylir i ysgolion wneud y defnydd gorau posibl o’r cyllid hwn i weithredu strategaethau cynaliadwy a fydd yn arwain at newidiadau cyflym i ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sydd mewn gofal.
Fel ysgol, rydym wedi cytuno ar y tri cham canlynol:
• nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
• cynllunio ymyriadau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
• monitro a gwerthuso effaith yr adnoddau
Yn 2025–26, cafodd Ysgol Gynradd Pontiets ddyraniad GDD o £13,536.85.
Mae gennym gynllun cynhwysfawr, wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gâr a Phartneriaeth, i hyrwyddo cynnydd a dileu rhwystrau i ddysgu ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael y cyllid hwn.