Diogelu


E Ddiogelwch

Wedi ei phenodi gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae UK Safer Internet Centre yn cynnwys tri phartner; Childnet International, South West Grid for Learning a’r Internet Watch Foundation. Gyda’n gilydd rydym yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar-lein, yn datblygu deunyddiau gwybodaeth ac adnoddau, ac yn trefnu digwyddiadau proffil uchel fel Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Ymhlith yr adnoddau mae canllaw i rieni ar dechnoleg, gwybodaeth am reolaethau rhieni, ac offer diogelwch ar rwydweithiau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein eraill. Mae modd cael amrywiaeth o adnoddau am ddim o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, Ewrop ac ymhellach i ffwrdd ynhttps://www.saferinternet.org.uk/advice-centre/parents-and-carers

Mae Childnet yn sefydliad nid-er-elw sy’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill o gwmpas y byd i wneud y rhyngrwyd yn lle gwych a diogel i blant. Mae gwefan Childnet yn cynnwys nifer o adnoddau a argymhellir ar gyfer pobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr. Mae’r rhan i Rieni a Gofalwyr hefyd yn cynnwys cyngor allweddol, gwybodaeth am roi gwybod am bryderon a gwybodaeth fanwl am amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein yn yr adran pynciau llosg. https://www.childnet.com/parents-and-carers 

Mae’r South West Grid for Learning (SWGfL) yn ymddiriedolaeth elusennol nid-er-elw sy’n ymroddedig i hyrwyddo addysg drwy dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu. Mae’n darparu gwasanaethau diogel â chymorth ar addysgu a dysgu drwy ryngrwyd band eang ar gyfer 2,500 o ysgolion yn Ne Orllewin Lloegr ac addysg a hyfforddiant diogelwch ar-lein yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n rhoi cyngor, adnoddau a chymorth i weithwyr proffesiynol, rhieni a phlant i ddefnyddio technolegau rhyngrwyd yn ddiogel i wella dysgu a chynyddu potensial. www.swgfl.org.uk 

Internet Watch Foundation yw llinell gymorth y Deyrnas Unedig ar gyfer rhoi gwybod am gynnwys anghyfreithlon ar y rhyngrwyd. Mae’n delio’n benodol â cham-drin plant a delweddau anweddus troseddol a gynhelir yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae’r Internet Watch Foundation yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant ar-lein, gorfodi’r gyfraith, y llywodraeth a phartneriaid rhyngwladol. Mae’n elusen ac yn gorff hunanreoleiddiol gyda thros 100 o aelodau o’r diwydiant ar-lein. www.iwf.org.uk